Naukrijobs UK
Register
London Jobs
Manchester Jobs
Liverpool Jobs
Nottingham Jobs
Birmingham Jobs
Cambridge Jobs
Glasgow Jobs
Bristol Jobs
Wales Jobs
Oil & Gas Jobs
Banking Jobs
Construction Jobs
Top Management Jobs
IT - Software Jobs
Medical Healthcare Jobs
Purchase / Logistics Jobs
Sales
Ajax Jobs
Designing Jobs
ASP .NET Jobs
Java Jobs
MySQL Jobs
Sap hr Jobs
Software Testing Jobs
Html Jobs
IT Jobs
Logistics Jobs
Customer Service Jobs
Airport Jobs
Banking Jobs
Driver Jobs
Part Time Jobs
Civil Engineering Jobs
Accountant Jobs
Safety Officer Jobs
Nursing Jobs
Civil Engineering Jobs
Hospitality Jobs
Part Time Jobs
Security Jobs
Finance Jobs
Marketing Jobs
Shipping Jobs
Real Estate Jobs
Telecom Jobs

Partner Busnes Adnoddau Dynol (Rhan Amser) i £51,723 prorata PENYBONT

Job LocationPencoed
EducationNot Mentioned
Salary£48,033 - £51,723 per annum, pro-rata
IndustryNot Mentioned
Functional AreaNot Mentioned
Job TypePermanent, part-time

Job Description

Human Resourcing yn gweithio yn unig gyda Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, felly i wneud cais e-bostiwch eich CV i Mera Mann erbyn 9.00 am ar ddydd Llun 30 Tachwedd.Gradd Gyflog: £48,033 - £51,723 pro rataOriau Gwaith: 0.5 - 0.6 o amser llawn - Tua. 18 - 22 awr yr wythnosYn gyfrifol i: Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr GwelliantYn gyfrifol am: Arwain materion AD y sefydliad ac yn aelod allweddol o’r Tîm RheoliTrosolwg: Rôl ran-amser yw hon. Bydd y Partner Busnes AD yn darparu mewnbwn AD hynod effeithiol sy’n canolbwyntio ar fusnes i gefnogi’r sefydliad i gyflawni ei amcanion busnes ac i sicrhau bod yr Ombwdsmon yn darparu gwasanaethau rhagorol.Bydd deiliad y swydd yn aelod allweddol o’r Tîm Rheoli a bydd yn darparu cynllunio adnoddau dynol, cefnogaeth ar gyfer rheoli perfformiad, gwaith achos AD a bydd yn arwain ar gynlluniau a gweithgareddau datblygu a dysgu. Bydd deiliad y swydd hefyd yn sicrhau bod gennym drefniadau gwobrwyo a chydnabod addas ac effeithiol a bydd yn arwain a gweithredu newid sefydliadol. Bydd y Partner Busnes AD yn sicrhau bod ein harferion a’n polisïau AD yn gyfredol a’u bod yn adlewyrchu arfer da a’n gwerthoedd.Cyfrifoldebau:

  • Darparu arweinyddiaeth AD rhagorol, fel rhan allweddol o’n Tîm Rheoli, a gweithio ar draws y sefydliad i sicrhau rhagoriaeth o ran perfformiad a’n gwasanaethau
  • Llunio ein dull o reoli perfformiad, gan sicrhau ei fod yn glir, yn gefnogol ac yn effeithiol, gyda ffocws cryf ar ganlyniadau
  • Datblygu a goruchwylio ein dull o ddysgu a datblygu a sicrhau bod gennym ffocws clir ar ddysgu a gwella fel unigolion ac fel sefydliad.
  • Ymgorffori ac arwain y defnydd o’n fframwaith cymhwysedd
  • Darparu cyngor a chefnogaeth AD proffesiynol ynglyn â recriwtio a gwaith achos AD (gan gynnwys disgyblaeth, cwynion, presenoldeb a pherfformiad)
  • Cefnogi ein gwaith fel Cyflogwr Chwarae Teg a’n gwaith ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle
  • Adolygu a datblygu trefniadau gwobrwyo a chydnabod i sicrhau eu bod yn dangos arfer da ac yn diwallu ein hanghenion.
  • Gweithio â Grwp Llesiant staff i gefnogi llesiant staff
  • Arwain arolygon staff rheolaidd a datblygu a gweithredu camau addas i adeiladu ar ganlyniadau a’n helpu i ddod yn gyflogwr delfrydol
  • Dilyn y datblygiadau cyfredol yn y gyfraith ac arferion AD cyfredol.
  • Gweithredu Proses Adolygu a Datblygu Perfformiad yr Ombwdsmon.
  • Paratoi adroddiadau ar gyfer y Tîm Rheoli
  • Darparu mentora, datblygu, chyngor a chefnogaeth i reolwyr ynglyn â materion AD.
  • Datblygu a chynnal cysylltiadau cadarnhaol a chynhyrchiol â chynrychiolwyr Undeb Llafur, a chynnal ymgynghoriad ar faterion AD
  • Cynrychioli’r Ombwdsmon mewn cyfarfodydd perthnasol, gwrandawiadau ac ati.
  • Dilyn holl bolisïau a gweithdrefnau’r Ombwdsmon fel y’i hamlinellwyd yn y dogfennau polisi, pecynnau cynefino, y fewnrwyd ac ati.
  • Cyfrannu at ymrwymiad yr Ombwdsmon i arferion da wrth ymdrin â gwybodaeth, trwy gydymffurfio â Deddf Diogelu Data a pholisïau a gweithdrefnau OGCC, yn arbennig o ran unrhyw ddata personol neu ddeunydd cyfrinachol.
  • Gofynion:Hanfodol:
  • Cymhwyster CIPD ynghyd â’r aelodaeth gyfredol
  • Profiad helaeth mewn rôl broffesiynol uchel ym maes AD, a sgiliau amlwg o ran sicrhau bod trefniadau a dulliau AD yn helpu i gyflawni amcanion a blaenoriaethau busnes.
  • Profiad o arwain a llunio gweithgareddau dysgu a datblygu
  • Gwybodaeth am gyfraith cyflogaeth ac arfer gorau AD
  • Profiad o reoli newid sefydliadol
  • Y gallu i ymgymryd â gwaith achos AD yn broffesiynol ac effeithiol
  • Gan feddu agwedd gallu gwneud’ â’r gallu i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau gwybodus a herio yn briodol, byddwch yn cynnal sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig o’r safonau orau.
  • Bod â statws personol a phroffesiynol i ennyn parch eich cydweithwyr ac eraill, a bod â sgiliau rhyngbersonol a’r gallu i ddylanwadu newid o fewn OGCC
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun.
  • Gallu cynllunio a chwblhau gwaith i gwrdd ag amserlenni tynn ac i greu lefelau da o allbwn gwaith ac ansawdd gwaith.
  • Profiad o ddarparu gwasanaeth sy’n deg a chyfiawn i bawb beth bynnag fo’u hoed, anabledd, ethnigrwydd, rhywedd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred, boed yn briod neu mewn partneriaeth sifil, neu ar sail unrhyw ystyriaeth amherthnasol arall.
  • Cymhwysedd profedig â systemau TG
  • Required skills
  • Rhan Amser
  • Partner Busnes Adnoddau Dynol
  • Dysgu a Datblygu
  • Rheoli Perfformiad
  • Gwobr a Chydnabyddiaeth#
  • Keyskills :
    Rhan Amser Partner Busnes Adnoddau Dynol Dysgu a Datblygu Rheoli Perffmiad Gwobr a Chydnabyddiaeth

    APPLY NOW

    Partner Busnes Adnoddau Dynol (Rhan Amser) i £51,723 prorata PENYBONT Related Jobs

    © 2019 Naukrijobs All Rights Reserved