London Jobs |
Manchester Jobs |
Liverpool Jobs |
Nottingham Jobs |
Birmingham Jobs |
Cambridge Jobs |
Glasgow Jobs |
Bristol Jobs |
Wales Jobs |
London Jobs |
Manchester Jobs |
Liverpool Jobs |
Nottingham Jobs |
Birmingham Jobs |
Cambridge Jobs |
Glasgow Jobs |
Bristol Jobs |
Wales Jobs |
Oil & Gas Jobs |
Banking Jobs |
Construction Jobs |
Top Management Jobs |
IT - Software Jobs |
Medical Healthcare Jobs |
Purchase / Logistics Jobs |
Sales |
Ajax Jobs |
Designing Jobs |
ASP .NET Jobs |
Java Jobs |
MySQL Jobs |
Sap hr Jobs |
Software Testing Jobs |
Html Jobs |
Job Location | Rhondda, Pentre |
Education | Not Mentioned |
Salary | Competitive salary |
Industry | Not Mentioned |
Functional Area | Not Mentioned |
Job Type | Temporary, full-time |
Cynorthwyydd diffyg cydymffurfio37 awr yr wythnos(20 awr o hyfforddiant yn ystod wythnos 1)Contract: 18 Mai 2021 – 9 Gorffennaf 2021 + gwyliauCyflog yn ddibynnol ar leoliadBand 1 – £14.61Band 2 – £12.64Band 3 – £11.22O ddydd Llun i ddydd Gwener: rhwng 9am ac 8pmDydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc: bydd angen i chi fod yn hyblyg mewn perthynas ag oriau gwaith ac oriau ychwanegol.Pobl syn gwrandon astud syn gwneud y cyfrifiad Arolwg o boblogaeth gyfan Cymru a Lloegr ywr cyfrifiad, syn digwydd bob 10 mlynedd. Caiff ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ac maen rhoi darlun i ni or holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr.Caiff y wybodaeth rydym yn ei chasglu ei defnyddio i wneud penderfyniadau syn effeithio ar bawb – pethau fel faint o ysgolion, meddygfeydd ac ysbytai sydd eu hangen arnom.Rhaid i bob cartref gwblhau arolwg y cyfrifiad yn ôl y gyfraith. Rydym ni bellach yn recriwtio pobl i weithio gydan swyddogion diffyg cydymffurfio ac ymchwilio i achosion o wrthod cwblhaur cyfrifiad.Y rôlYdych chin hyderus mewn sefyllfaoedd heriol Ydych chi am ddefnyddior sgiliau hyn i hybu cydymffurfiaeth âr cyfrifiad Yn y rôl dros dro bwysig hon, byddwch yn ymweld â chartrefi sydd wedi gwrthod llenwi holiadur y cyfrifiad au hannog i gydymffurfio.Byddwch yn gweithio mewn pâr, ochr yn ochr â swyddogion diffyg cydymffurfio, yn curo ar ddrysau ac yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bobl. Os bydd aelodaur cartref yn parhau i wrthod llenwi holiadur, bydd y swyddog yn cynnal ‘cyfweliad dan rybudd’ ffurfiol. Bryd hynny, eich gwaith chi fydd cofnodir cyfweliad hwn yn gywir.O bryd iw gilydd, maen bosibl y bydd sefyllfaoedd heriol a gallai pobl ymddwyn mewn ffordd syn achosi gwrthdaro. Ar y cyd âr swyddogion diffyg cydymffurfio, bydd angen i chi reolir sefyllfaoedd hyn yn effeithiol.Byddwch yn gweithio ochr yn ochr âr swyddog diffyg cydymffurfio bob amser, yn cynllunio ac yn teithio ir cyfeiriadau gofynnol gydach gilydd drwyr dydd.Bydd y lleoliadaun amrywio, ond byddant wediu gwasgaru dros ardal ddaearyddol fawr. Byddwch yn cael cymorth gan reolwr maes diffyg cydymffurfio ac yn atebol iddo. Gan y byddwch yn cwmpasu ardal eang, byddwch yn cadw mewn cysylltiad drwy ffôn symudol a gaiff ei roi i chi, gan ddefnyddio GSuite neu Microsoft Teams. Noder: Maen bosibl y bydd angen i chi fynd ir llys fel tyst a rhoi tystiolaeth ar ôl y cyfnod cyflogaeth. Caiff treuliau eu talu ar gyfer hyn.Amdanoch chiYn y rôl hon, bydd angen i chi ddogfennu cyfweliadau a chwblhau datganiadau tyst yn gywir ac yn glir, felly bydd angen i chi feddu ar sgiliau Saesneg ysgrifenedig a llafar ardderchog.Rhaid i chi fod yn wydn ac yn hyderus yn siarad ag aelodau or cyhoedd, a allai ymddwyn mewn ffordd syn achosi gwrthdaro.Mae deall Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) yn ddymunol ond nid ywn hanfodol gan y byddwch yn cael hyfforddiant perthnasol. Bydd angen lle arnoch i storio nwyddau yn ddiogel. Bydd hefyd angen i chi feddu ar drwydded yrru lawn gyfredol y Deyrnas Unedig a bod â char modur iw ddefnyddio, wedii yswirio at ddefnydd busnes. Gall fod angen aros dros nos o bryd iw gilydd. Byddwn yn talu treuliau teithio yn eich ardal waith.Os ydych chin sylwgar ac yn hyderus ac os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud Cyfrifiad 2021 yn llwyddiant i bawb, gwnewch gais am rôl cynorthwyydd diffyg cydymffurfior cyfrifiad.Gallwn ni ond eich cyflogi os ydych chin gymwys i weithio ir Gwasanaeth Sifil. Dysgwch fwy am reolau cenedligrwydd y Gwasanaeth SifilCOVID-19Byddwn yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â chanllawiau priodol y llywodraeth er mwyn eich cadw chin ddiogel pan fyddwch yn gweithio i SYG. Bydd cyfarpar diogelu personol priodol, gan gynnwys diheintydd dwylo a masgiau wyneb, yn cael eu darparu ir holl staff. Er mwyn eich cadwn ddiogel, bydd angen i chi ddefnyddio a gwisgor cyfarpar diogelu personol hwnnw, yn ôl y cyfarwyddyd, pan fyddwch chin gweithio. Bydd pawb yn cadw pellter cymdeithasol drwy gydol gweithrediad y cyfrifiad.