London Jobs |
Manchester Jobs |
Liverpool Jobs |
Nottingham Jobs |
Birmingham Jobs |
Cambridge Jobs |
Glasgow Jobs |
Bristol Jobs |
Wales Jobs |
London Jobs |
Manchester Jobs |
Liverpool Jobs |
Nottingham Jobs |
Birmingham Jobs |
Cambridge Jobs |
Glasgow Jobs |
Bristol Jobs |
Wales Jobs |
Oil & Gas Jobs |
Banking Jobs |
Construction Jobs |
Top Management Jobs |
IT - Software Jobs |
Medical Healthcare Jobs |
Purchase / Logistics Jobs |
Sales |
Ajax Jobs |
Designing Jobs |
ASP .NET Jobs |
Java Jobs |
MySQL Jobs |
Sap hr Jobs |
Software Testing Jobs |
Html Jobs |
Job Location | Cardiff |
Education | Not Mentioned |
Salary | Competitive salary |
Industry | Not Mentioned |
Functional Area | Not Mentioned |
Job Type | Permanent , full-time |
Mae S&You yn recriwtio Cadeirydd ar hyn o bryd ar ran Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru. Mae hon yn siwrnai at newid y tirlun chwaraeon cymunedol ledled Cymru a sut mae chwaraeon yn cael eu cyflwyno, gan greu newid sylweddol mewn lefelau chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith pobl Cymru. Gydan gilydd, rydyn ni wedi ymrwymo i gael mwy o bobli fod yn actif drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol er mwyn i ni gyflawni ein gweledigaeth o Greu Cymunedau Iachach a Thrawsnewid Bywydau drwy Ffyrdd o Fyw Actif. Bydd PCCC yn gweithredu fel cwmni cyfyngedig drwy warant (gydar potensial i fabwysiadu statws elusennol ar yr amser priodol), o fewn fframwaith llywodraethu cadarn a thryloyw. Wrth galon y Bartneriaeth bydd Bwrdd cytbwys, cynhwysol, amrywiol a medrus a fyddyn canolbwyntio ar ein cyfeiriad strategol. Gan gynnwys swydd y Cadeirydd, bydd y Bwrdd yn penodi rhwng chwech ac wyth aelod i adlewyrchu diddordebaur sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar sgiliau ar arbenigedd sydd eu hangen i gyflawni uchelgais Canolbarth Cymru. Manylion AllweddolLleoliad: Bydd lleoliad y cyfarfodydd yn newid am yn ail ac yn cael eu cynnal ar-lein ac ar draws cyfleusterau partneriaid yng Ngheredigion a Phowys. Tymor: Pedair blynedd gydag ail dymor (yn amodol ar gymeradwyaeth) o dair blynedd. Tâl: £5,000 y flwyddyn, ynghyd ag unrhyw gostau rhesymol syn codi wrth gyflawni dyletswyddau yn unol â Pholisi Cyllid a Gweinyddu PCCC. Ymrwymiad: I ddechrau bydd y Bwrdd yn cyfarfod yn fisol, ond bydd yr amledd yn cael ei adolygu yn dilyn y chwe mis cyntaf o weithredu wrth iddo ddod yn fwy sefydledig. PwrpasPrif rôl Bwrdd Chwaraeon Canolbarth Cymru yw sicrhau bod cyfeiriad strategol ac amcanion PCCC yn cael eu datblygu, monitro perfformiad a defnyddio gwybodaeth a dysg i wella a thargedu ei darpariaeth yn barhaus. Bydd PCCC yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru i fuddsoddiyn y rhanbarth yn flynyddol.Rôl y CadeiryddMae hwn yn gyfle cyffrous i arweinydd profiadol, trawsnewidiol a all helpu i lunio dyfodol chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghanolbarth Cymru. Rydyn nin chwilio am unigolyn ysbrydoledig syn angerddol am werth ac effaith chwaraeon a gweithgarwch corfforolcymunedol ar gred y dylai pawb fod yn actif gydai gilydd, am oes. Bydd hon yn rôl proffil uchel, yn dylanwadu ar bolisi a strategaeth ranbarthol a chenedlaethol ac ar flaen y gad o ran dylunio a datblygu chwaraeon cymunedol yng Nghymru. Gan weithio gydar Tîm Gweithredol, rôl y Cadeirydd yw darparu arweinyddiaeth effeithiol a chyfeiriad strategol, gan ganolbwyntio ar weledigaeth, gwerthoedd craidd, llywodraethu ac amcanion PCCC gan sicrhaur canlynol: