London Jobs |
Manchester Jobs |
Liverpool Jobs |
Nottingham Jobs |
Birmingham Jobs |
Cambridge Jobs |
Glasgow Jobs |
Bristol Jobs |
Wales Jobs |
London Jobs |
Manchester Jobs |
Liverpool Jobs |
Nottingham Jobs |
Birmingham Jobs |
Cambridge Jobs |
Glasgow Jobs |
Bristol Jobs |
Wales Jobs |
Oil & Gas Jobs |
Banking Jobs |
Construction Jobs |
Top Management Jobs |
IT - Software Jobs |
Medical Healthcare Jobs |
Purchase / Logistics Jobs |
Sales |
Ajax Jobs |
Designing Jobs |
ASP .NET Jobs |
Java Jobs |
MySQL Jobs |
Sap hr Jobs |
Software Testing Jobs |
Html Jobs |
Job Location | Caldicot |
Education | Not Mentioned |
Salary | £45,441 - £49,498 per annum |
Industry | Not Mentioned |
Functional Area | Not Mentioned |
Job Type | Permanent , full-time |
CYNGOR TREF CIL-Y-COEDPRIF SWYDDOG & CHLERC Y CYNGORCyflog: Graddfa LC3 (Pwyntiau 37-41 £45441 i £49498)AMSER LLAWN (37 AWR YR WYTHNOS)Mae Cyngor Tref Cil-y-coed yn falch iawn o allu gwasanaethu pobl ein tref, meithrin datblygiad cymunedol, a darparu cyfleusterau hanfodol ar gyfer ein trigolion. Wrth inni barhau â’n hymrwymiad i lesiant y gymuned, rydym yn falch o gyhoeddi cyfle ar gyfergweithiwr proffesiynol ymroddedig i ymuno â’r Cyngor yn Brif Swyddog a Chlerc y Cyngor.Bydd deiliad y swydd yn atebol i’r Cyngor cyfan, ac mae’r rôl yn galw arnoch i weithredu’n brif swyddog llywodraethol ac ariannol y Cyngor, gan ei alluogi i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol. Byddwch yn chwarae rôl allweddol yn cynghori ar, a chefnogi lluniopolisïau, a sicrhau y caiff penderfyniadau’r Cyngor eu gweithredu’n effeithiol.I wneud hyn bydd angen ichi allu arddangos casgliad deinamig o sgiliau, gan gynnwys y gallu i feddwl a gweithredu’n strategol, yn ogystal â phrofiad o reolaeth weinyddol mewn amgylchedd cymhleth a heriol.Mae dealltwriaeth o gyfraith a gweithdrefnau llywodraeth leol yn hanfodol, ac mae disgwyl y bydd gennych, neu y byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol priodol (Tystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol neu gymhwyster cyfatebol). Bydd disgwylhefyd ichi ymrwymo i’ch datblygiad proffesiynol parhaus.Fel prif bwynt cyswllt y Cyngor, byddwch angen sgiliau llafar ac ysgrifenedig rhagorol. Mae hefyd angen gafael da ar rifedd er mwyn sicrhau y cyflawnir y safonau Llywodraethiant ac Atebolrwydd Ariannol ar gyfer Cynghorau Lleol. Mae sgiliau TG ‘Office’ cymwyshefyd yn hanfodol.Bydd gennych hefyd gyfrifoldeb rheolydd llinell ar gyfer y 3 aelod o staff a gyflogir gan y Cyngor.Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio o swyddfa’r Cyngor ynghanol y dref am o leiaf bedwar diwrnod yr wythnos. Hefyd, bydd angen ichi fynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda’r nos ac ambell benwythnos yn ôl y galw. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol,ond nid yn hanfodol.