London Jobs |
Manchester Jobs |
Liverpool Jobs |
Nottingham Jobs |
Birmingham Jobs |
Cambridge Jobs |
Glasgow Jobs |
Bristol Jobs |
Wales Jobs |
London Jobs |
Manchester Jobs |
Liverpool Jobs |
Nottingham Jobs |
Birmingham Jobs |
Cambridge Jobs |
Glasgow Jobs |
Bristol Jobs |
Wales Jobs |
Oil & Gas Jobs |
Banking Jobs |
Construction Jobs |
Top Management Jobs |
IT - Software Jobs |
Medical Healthcare Jobs |
Purchase / Logistics Jobs |
Sales |
Ajax Jobs |
Designing Jobs |
ASP .NET Jobs |
Java Jobs |
MySQL Jobs |
Sap hr Jobs |
Software Testing Jobs |
Html Jobs |
Job Location | Cilfynydd |
Education | Not Mentioned |
Salary | Competitive salary |
Industry | Not Mentioned |
Functional Area | Not Mentioned |
Job Type | Permanent, full-time |
Rheolwyr ymgysylltu'r cyfrifiad37 awr yr wythnosContract: 28 Medi 2020 i 14 Mai 2021Swyddi cymunedol i weithwyr ymgysylltu proffesiynolArolwg unwaith bob degawd o boblogaeth gyfan Cymru a Lloegr yw'r cyfrifiad. Caiff ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ac mae'n darparu ystadegau cywir sy'n dylanwadu ar ddyfodol pob un ohonom.Mae'r data rydym yn eu casglu yn darparu darlun hynod fanwl o'n cymdeithas. Caiff y data eu defnyddio i wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bawb – pethau fel faint o ysgolion, meddygfeydd ac ysbytai sydd eu hangen arnom.Y rôlYdych chi'n barod am rôl ymarferol yn arwain gwaith i ymgysylltu â'r gymuned ar gyfer Cyfrifiad 2021 Rydym bellach yn recriwtio rheolwyr ymgysylltu'r cyfrifiad i godi ymwybyddiaeth a chynnwys pawb.Gan weithio gyda staff eraill y cyfrifiad, a meithrin cymorth gan awdurdodau lleol, elusennau, arweinwyr ffydd ac arweinwyr cymunedol, byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu cynllun ymgysylltu â'r gymuned sy'n ysbrydoli pawb i lenwi holiadur y cyfrifiad.Byddwch yn defnyddio eich profiad o ymgysylltu i ddatblygu cydberthnasau a sicrhau y caiff negeseuon perthnasol ac amserol eu rhannu â'r grwpiau cywir ar yr adeg gywir. Gan weithredu fel cennad ar gyfer Cyfrifiad 2021, byddwch yr un mor gyfforddus yn mynd ar hyd y lle i ledaenu'r neges ag y byddwch wrth lunio eich cynllun.Gan ddibynnu ar ble rydych wedi'ch lleoli, efallai y gofynnir i chi reoli un neu fwy o gynghorwyr cymunedol hefyd, sy'n cefnogi grwpiau penodol yn y gymuned.Amdanoch chiFel gweithiwr ymgysylltu proffesiynol trefnus, byddwch yn dda am wneud gwaith allgymorth a datblygu cydberthnasau, a byddwch yn gallu arwain gwaith cynllunio, negodi a gwneud penderfyniadau.Efallai y byddwch wedi gweithio i elusen neu awdurdod lleol yn flaenorol, wedi bod yn wirfoddolwr, neu efallai wedi rhedeg eich busnes eich hun. Beth bynnag fo'ch cefndir, bydd gennych brofiad o weithio ym maes ymgysylltu neu allgymorth yn llwyddiannus.Mae gwydnwch, sgiliau cyfathrebu ac agwedd gydweithredol a chadarnhaol yn bwysig. Os ydych chi'n gallu meithrin cydberthnasau a datblygu eich rhwydwaith yn effeithiol, efallai mai hon yw'r swydd i chi.Gan fod hon yn rôl gweithio gartref, bydd angen lle arnoch y gallwch ei ddefnyddio fel swyddfa.Byddwch hefyd yn teithio'n aml, felly bydd defnydd o'ch car eich hun yn hanfodol yn y rhan fwyaf o leoliadau.Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rôl, rhaid i chi fod ar gael rhwng 28 Medi 2020 a 14 Mai 2021 yn gynhwysol. Bydd hefyd angen i chi fod yn hyblyg gyda'ch oriau, oherwydd efallai y bydd yn rhaid i chi weithio gyda'r nos ac ar benwythnosau, gan ddibynnu ar y cymunedau rydych yn eu helpu.Pobl sy'n gwneud y cyfrifiad. Os ydych chi'n drefnus, yn meddu ar sgiliau negodi gwych ac os oes diddordeb gennych mewn gwneud Cyfrifiad 2021 yn llwyddiant i bawb, gwnewch gais yma.Gallwn ond eich cyflogi os ydych yn gymwys i weithio i'r Gwasanaeth Sifil. Dysgwch fwy yma.