Naukrijobs UK
Register
London Jobs
Manchester Jobs
Liverpool Jobs
Nottingham Jobs
Birmingham Jobs
Cambridge Jobs
Glasgow Jobs
Bristol Jobs
Wales Jobs
Oil & Gas Jobs
Banking Jobs
Construction Jobs
Top Management Jobs
IT - Software Jobs
Medical Healthcare Jobs
Purchase / Logistics Jobs
Sales
Ajax Jobs
Designing Jobs
ASP .NET Jobs
Java Jobs
MySQL Jobs
Sap hr Jobs
Software Testing Jobs
Html Jobs
IT Jobs
Logistics Jobs
Customer Service Jobs
Airport Jobs
Banking Jobs
Driver Jobs
Part Time Jobs
Civil Engineering Jobs
Accountant Jobs
Safety Officer Jobs
Nursing Jobs
Civil Engineering Jobs
Hospitality Jobs
Part Time Jobs
Security Jobs
Finance Jobs
Marketing Jobs
Shipping Jobs
Real Estate Jobs
Telecom Jobs

Arweinydd tîm arolwg cwmpas y cyfrifiad

Job LocationSwansea
EducationNot Mentioned
SalaryCompetitive salary
IndustryNot Mentioned
Functional AreaNot Mentioned
Job TypeTemporary, full-time

Job Description

Rheolwyr tîm arolwg cwmpas y cyfrifiad 37 awr yr wythnosContract: 13 Ebrill 2021 – 7 Mehefin 2021 + gwyliauCyflog yn ddibynnol ar leoliadBand 1 – £16.93Band 2 – £14.67Band 3 – £13.01Dim oriau gwaith dyddiol penodol ond bydd rhaid i chi weithio o fewn yr amseroedd canlynol:O ddydd Llun i ddydd Sadwrn:9am ac 8pm Dydd Sul a gwyliau banc: 10am ac 4pm Ysgogwyr pobl sy'n gwneud y cyfrifiadArolwg o boblogaeth gyfan Cymru a Lloegr yw'r cyfrifiad, sy'n digwydd bob 10 mlynedd. Caiff ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ac mae'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr.Caiff y wybodaeth rydym yn ei chasglu ei defnyddio i wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bawb – pethau fel faint o ysgolion, meddygfeydd ac ysbytai sydd eu hangen arnom.Er mwyn ein helpu ni, mae angen tîm maes mawr arnom i gwblhau cyfweliadau ar garreg y drws mewn ardaloedd penodol, ynghyd ag arweinwyr tîm profiadol i oruchwylio eu gwaith.Y rôlYdych chi'n meddu ar brofiad o reoli timau Yn y rôl dros dro, bwysig hon, byddwch yn goruchwylio ac yn cydlynu tîm maes, yn cynyddu cyfraddau ymateb Cyfrifiad 2021 ac yn ein helpu i gynnal cyfrifiad o ansawdd uchel.Eich prif dasg fydd rheoli tîm o gyfwelwyr, a phob un ohonynt yn cwblhau cyfweliadau ar garreg y drws mewn ardal sydd wedi'i chlustnodi i chi. Byddwch yn sefydlu eich cyfwelwyr wrth iddynt ymuno â'r tîm ac yn eu harwain drwy gyfnodau gwahanol arolwg cwmpas y cyfrifiad.Bydd eich tîm yn gweithio o bell, felly bydd rhaid i chi ei annog a'i gymell drwy gadw mewn cysylltiad a chynnal galwadau a chyfarfodydd tîm rheolaidd. Byddwch hefyd yn delio ag unrhyw faterion a allai godi ac yn eu huwchgyfeirio. Er mwyn helpu, cewch gefnogaeth grwp ehangach o arweinwyr tîm, rheolwr ardal wrth law i roi cyngor i chi, yn ogystal â chefnogaeth desg gymorth staff y cyfrifiad a chyfleuster cymorth ar-lein os bydd ei angen arnoch.Byddwch yn gweithio oriau hyblyg, er y bydd eich tim yn gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau yn bennaf, felly bydd angen i chi fod ar gael pan fydd eich angen arno.Amdanoch chiFel rheolwr profiadol, rydych chi'n drefnus ac yn gwneud penderfyniadau teg ac effeithiol yn brydlon. Mae proffesiynoldeb, hyder a gwydnwch i gyd yn bwysig. Mae meddu ar sgiliau ysgrifenedig a llafar da yn Saesneg yn bwysig hefyd (byddai sgiliau Cymraeg yn fanteisiol os byddwch yn gweithio yng Nghymru). Byddwch yn defnyddio eich menter eich hun, yn meddwl yn annibynnol ac yn gallu cadw'ch pen hyd yn oed mewn sefyllfaoedd heriol.Gan fod hon yn rôl sy'n gofyn i chi weithio gartref, bydd angen lle arnoch y gallwch ei ddefnyddio fel swyddfa. Bydd hefyd angen i chi dderbyn cyflenwadau, a rhoi trefn ar ddeunyddiau a'u dosbarthu i'ch tîm. Yn dibynnu ar eich lleoliad, mae'n bosibl y bydd angen i chi feddu ar drwydded yrru lawn gyfredol y DU a bod â cherbyd modur i'w ddefnyddio, wedi'i yswirio at ddefnydd busnes.Pobl sy'n gwneud y cyfrifiad. Os ydych chi'n arweinydd tîm cefnogol sy'n dda am gymell eraill ac sydd â diddordeb mewn gwneud Cyfrifiad 2021 yn llwyddiant i bawb, gwnewch gais am rôl arweinydd tîm cwmpas y cyfrifiad.Gallwn ni ond eich cyflogi os ydych chi'n gymwys i weithio i'r Gwasanaeth Sifil. Dysgwch fwy am reolau cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil.COVID-19Byddwn yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â chanllawiau priodol y llywodraeth er mwyn eich cadw chi'n ddiogel pan fyddwch yn gweithio i SYG. Bydd cyfarpar diogelu personol priodol, gan gynnwys diheintydd dwylo a masgiau wyneb, yn cael eu darparu i'r holl staff. Er mwyn eich cadw'n ddiogel, bydd angen i chi ddefnyddio a gwisgo'r cyfarpar diogelu personol hwnnw, yn ôl y cyfarwyddyd, pan fyddwch chi'n gweithio. Bydd pawb yn cadw pellter cymdeithasol drwy gydol gweithrediad y cyfrifiad.

APPLY NOW

Arweinydd tîm arolwg cwmpas y cyfrifiad Related Jobs

© 2019 Naukrijobs All Rights Reserved