London Jobs |
Manchester Jobs |
Liverpool Jobs |
Nottingham Jobs |
Birmingham Jobs |
Cambridge Jobs |
Glasgow Jobs |
Bristol Jobs |
Wales Jobs |
London Jobs |
Manchester Jobs |
Liverpool Jobs |
Nottingham Jobs |
Birmingham Jobs |
Cambridge Jobs |
Glasgow Jobs |
Bristol Jobs |
Wales Jobs |
Oil & Gas Jobs |
Banking Jobs |
Construction Jobs |
Top Management Jobs |
IT - Software Jobs |
Medical Healthcare Jobs |
Purchase / Logistics Jobs |
Sales |
Ajax Jobs |
Designing Jobs |
ASP .NET Jobs |
Java Jobs |
MySQL Jobs |
Sap hr Jobs |
Software Testing Jobs |
Html Jobs |
Job Location | Cardiff |
Education | Not Mentioned |
Salary | Competitive salary |
Industry | Not Mentioned |
Functional Area | Not Mentioned |
Job Type | Contract , full-time |
Swyddog Prosiect Argyfwng Costau Byw a Swyddog CefnogiLleoliad: Caerdydd / Gweithio gartref yn bennafCyflog £33315 yf (Codiad cyflog yn yr arfaeth) - Gweithio gartrefMath o swyddi: Llawn Amser, Contract Cyfnod Penodol (Tan 31 Mawrth2026)Mae Un Llais Cymru yn chwilio am Swyddog Prosiect Argyfwng Costau Byw a Swyddog Cefnogi Prosiect Argyfwng Costau Byw i ymuno â’u tîm.Y RôlSwyddog Prosiect Argyfwng Costau Byw Darparu cymorth i’r Prosiect Argyfwng Costau Byw, a chyfrannu at gyflawni ei amcanion a’r cynllun prosiect yn llwyddiannus. Bydd angen ichi feddu ar radd israddedig a/neu brofiad gwaith cyfatebol mewn rôl cefnogi prosiect a chydlynu prosiect. Bydd angenhefyd ichi wybod am dechnegau a dulliau rheoli prosiect a meddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar a sgiliau TG a chyflwyno rhagorol yn ogystal â phrofiad o weithio’n effeithiol gyda budd-ddeiliaid.Swyddog Cefnogi Prosiect Argyfwng Costau Byw Darparu cymorth i’r Rheolydd Prosiect a’r Swyddog Prosiect, fydd yn cynnwys cynorthwyo gyda gweithdai a chyfarfodydd, cadw cofnodion, gwneud gwaith ymchwil, cydlynu cyfathrebu a gweinyddu pecynnau TG y tîm. Bydd angen ichi feddu ar radd israddedig a/neubrofiad gwaith cyfatebol mewn rôl cefnogi prosiect ynghyd â phrofiad o weithio gyda gwahanol fudd-ddeiliaid a sefydliadau. Dylai fod gennych wybodaeth fras am dechnegau rheoli prosiect a meddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar a sgiliau TG rhagorol.Bydd y tîm prosiect yn gyfrifol am gyflawni cynllun prosiect er mwyn rhoi gwell cymorth i aelwydydd incwm isel a phobl fregus mewn cymunedau ledled Cymru.Bydd deiliaid y ddwy swydd yn gweithio gartref ac mae lwfans gweithio gartref yn daladwy.Dyddiad Cau - Ganol nos ar 22 Medi 2023I Wneud CaisOs ydych yn teimlo eich bod yn ymgeisydd addas ac os hoffech weithio i Un Llais Cymru, dylech fynd ymlaen trwy’r ddolen ganlynol i gael eich ail-gyfeirio at eu gwefan er mwyn ichi gwblhau eich cais.Rhaid ichi lenwi ac e-bostio eich ffurflen gais at ein Hymgynghorydd Adnoddau Dynol Cysylltiol erbyn y dyddiad cau ac mae eu cyfeiriad e-bost i’w weld ar y ddolen.Un Llais Cymru yw’r corff cynrychioliadol cenedlaethol ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru, ac mae’n cynnig llais cryf i gynrychioli buddiannau cynghorau a nifer fawr o wasanaethau o ansawdd uchel i gefnogi eu gwaith gan gynnwys gwasanaethaugwybodaeth a chynghori, cymorth gyda pholisi a gweithdrefnau, gwasanaethau hyfforddiant a datblygu, gwasanaethau ymgynghorol, a chynrychioli a hyrwyddo’r sector.