London Jobs |
Manchester Jobs |
Liverpool Jobs |
Nottingham Jobs |
Birmingham Jobs |
Cambridge Jobs |
Glasgow Jobs |
Bristol Jobs |
Wales Jobs |
London Jobs |
Manchester Jobs |
Liverpool Jobs |
Nottingham Jobs |
Birmingham Jobs |
Cambridge Jobs |
Glasgow Jobs |
Bristol Jobs |
Wales Jobs |
Oil & Gas Jobs |
Banking Jobs |
Construction Jobs |
Top Management Jobs |
IT - Software Jobs |
Medical Healthcare Jobs |
Purchase / Logistics Jobs |
Sales |
Ajax Jobs |
Designing Jobs |
ASP .NET Jobs |
Java Jobs |
MySQL Jobs |
Sap hr Jobs |
Software Testing Jobs |
Html Jobs |
Job Location | Cardiff |
Education | Not Mentioned |
Salary | Competitive salary |
Industry | Not Mentioned |
Functional Area | Not Mentioned |
Job Type | Temporary, full-time |
Swyddog cymorth ardal y cyfrifiad 37 awr yr wythnosContract: Rhwng 3 Chwefror 2021 a 7 Mai 2021 + gwyliauCyflog yn ddibynnol ar leoliadBand 1 – £14.61Band 2 – £12.64Band 3 – £11.22Dim oriau gwaith dyddiol penodol ond bydd rhaid i chi weithio o fewn yr amseroedd canlynol:O ddydd Llun i ddydd Sadwrn:rhwng 9am ac 8pmDydd Sul a Gwyliau Banc: rhwng 10am a 4pmGweinyddwyr trefnus sy'n gwneud y cyfrifiadArolwg o boblogaeth gyfan Cymru a Lloegr yw'r cyfrifiad, sy'n digwydd bob 10 mlynedd. Caiff ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ac mae'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr.Caiff y wybodaeth rydym ni'n ei chasglu ei defnyddio i wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bawb – pethau fel faint o ysgolion, meddygfeydd ac ysbytai sydd eu hangen arnom.Er mwyn sicrhau bod pawb yn cymryd rhan yn y cyfrifiad, mae angen gweinyddwr ar bob un o'n rheolwyr ardal sy'n cydlynu'r gweithrediad.Y rôlYdych chi'n barod eich cymwynas, yn drefnus ac yn cynhyrchu gwaith sy'n fanwl gywir Yn y rôl dros dro, bwysig hon, byddwch yn cefnogi rheolwr ardal y cyfrifiad, sy'n gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yn eich ardal. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag arweinwyr tîm, dan arweiniad y rheolwr ardal, i sicrhau bod y cyfrifiad yn rhedeg yn esmwyth.Mae'n rôl amrywiol, gan gyfuno tasgau gweinyddol wrth ddesg a gwaith maes. Byddwch yn coladu adroddiadau, yn trefnu cyfarfodydd, yn gwneud nodiadau ac yn cyfathrebu ag amrywiaeth o bobl, gan gynnwys cyflogeion SYG ac awdurdodau lleol.Byddwch yn gweithio'n annibynnol ac yn dewis eich oriau gwaith, yn unol â chanllawiau a gaiff eu pennu gan y rheolwr ardal.Amdanoch chiRydych yn gefnogol, yn drefnus ac yn hunangymhellol. Rydych yn cadw cofnodion amserol, sy'n fanwl gywir ac rydych yn gweithredu ag uniondeb. Rydych yn cyfathrebu yn hyderus ac yn meddu ar sgiliau ysgrifenedig a llafar da yn Saesneg (ac yn Gymraeg yn ddelfrydol os byddwch yn gweithio yng Nghymru). Byddwch yn hyderus yn gweithio gydag amrywiaeth o bobl, gan gynnwys y tîm rheoli a'r cyhoedd, ac mae meddu ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog yn hanfodol.Gan fod hon yn rôl sy'n gofyn i chi weithio gartref, bydd angen lle arnoch y gallwch ei ddefnyddio fel swyddfa lle bydd modd storio bocsys o ddeunyddiau staff maes. Mewn rhai lleoliadau, bydd angen i chi feddu ar drwydded yrru lawn gyfredol y Deyrnas Unedig a bod â cherbyd modur i'w ddefnyddio, wedi'i yswirio at ddefnydd busnes. Mewn lleoliadau eraill, byddai hyn yn fanteisiol. Byddwn yn talu treuliau teithio yn eich ardal waith.Pobl sy'n gwneud y cyfrifiad. Os ydych chi'n gefnogol, yn meddu ar ddigonedd o fenter ac os oes diddordeb gennych mewn gwneud Cyfrifiad 2021 yn llwyddiant i bawb, gwnewch gais am rôl swyddog cymorth ardal y cyfrifiad.Gallwn ond eich cyflogi os ydych yn gymwys i weithio i'r Gwasanaeth Sifil. Dysgwch fwy am reolau cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil.COVID-19Mae eich iechyd chi, ynghyd ag iechyd ein staff maes, yn hollbwysig i ni. Byddwn yn dilyn canllawiau diogelwch y llywodraeth ar y coronafeirws (COVID-19). Bydd cyfarpar diogelu personol priodol yn cael ei ddarparu i'r holl staff. Bydd pawb yn cadw pellter cymdeithasol drwy gydol gweithrediad y cyfrifiad.