London Jobs |
Manchester Jobs |
Liverpool Jobs |
Nottingham Jobs |
Birmingham Jobs |
Cambridge Jobs |
Glasgow Jobs |
Bristol Jobs |
Wales Jobs |
London Jobs |
Manchester Jobs |
Liverpool Jobs |
Nottingham Jobs |
Birmingham Jobs |
Cambridge Jobs |
Glasgow Jobs |
Bristol Jobs |
Wales Jobs |
Oil & Gas Jobs |
Banking Jobs |
Construction Jobs |
Top Management Jobs |
IT - Software Jobs |
Medical Healthcare Jobs |
Purchase / Logistics Jobs |
Sales |
Ajax Jobs |
Designing Jobs |
ASP .NET Jobs |
Java Jobs |
MySQL Jobs |
Sap hr Jobs |
Software Testing Jobs |
Html Jobs |
Job Location | Cardiff |
Education | Not Mentioned |
Salary | £28,488 per annum |
Industry | Not Mentioned |
Functional Area | Not Mentioned |
Job Type | Permanent, full-time |
Dyma adeg wych i ymuno â Trafnidiaeth Cymru. Rydym ni wrthin trawsnewid y rheilffordd, ac fel gyrrwr trên dan hyfforddiant gallech chi fod yn rhan bwysig or daith honno. Nid oes angen profiad blaenorol ar gyfer y rôl oherwydd fe fydd ein rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr yn eich paratoi ar gyfer unrhyw beth a allai eich wynebu. Yr hyn syn bwysig yw eich bod dros 21 oed ac yn rhannu ein brwdfrydedd i gadw Cymru i symud. Bydd yn rhaid i chi fyw o fewn awr or depo a ddewiswch, rhoi diogelwch yn gyntaf yn reddfol, a deall pwysigrwydd gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, perfformiad cryf, rheolau a rheoliadau. Ir unigolyn priodol, gall hwn fod y cam cyntaf tuag at yrfa wych. Byddwn yn rhoi cymorth i chi ar hyd pob cam or ffordd, gyda hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus. Rydym hefyd yn cynnig pecyn cyflog cystadleuol iawn syn cynnwys pensiwn gwych a theithiau yn rhad ac am ddim ar ein trenau i chi ach dibynyddion. Mae menywod wediu tangynrychioli ar hyn o bryd, felly rydym yn chwilio am wrywod a menywod; yn wir, byddem wrth ein boddau petai mwy o fenywod yn dymuno bod yn yrwyr trên. Rydym hefyd yn awyddus iawn i glywed gan unrhyw un syn byw yn y Cymoedd, oherwydd bydd rhai on gyrwyr yn gyrru Metro newydd De Cymru.Fel gyrrwr trên dan hyfforddiant, byddwch yn treulio llawer o amser ar eich pen eich hun yn y cab ar flaen y trên. Serch hynny, rydym nin gweithion galed iawn i wneud yn siwr bod pob un on gyrwyr yn teimlon rhan or tîm ehangach, ac yn cael manteisio ar ohebiaeth a hyfforddiant yn rheolaidd. Bydd ein tîm hyfforddiant yn eich paratoi ar gyfer pob un o gyfrifoldebaur rôl, a fydd yn cynnwys y canlynol: * Symud trenau rhwng ein gorsafoedd a depos amrywiol yn ddiogel * Dysgu a deall rheolau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol, rheoliadau a chyfarwyddiadau * Ymateb i sefyllfaoedd y tu allan i gyrsiau wrth iddynt godi, a dilyn gweithdrefnau argyfwng yn unol âr rheolau ar rheoliadau * Cydymffurfio âr Datganiad Cyfrifoldeb Diogelwch Gyrwyr * Cwblhau adroddiadau ysgrifenedig a llafar * Cymryd rhan mewn hyfforddiant parhaus fel y bo angenEr mwyn bod yn llwyddiannus yn yr hyfforddiant, rydym yn chwilio am bobl syn:* Deall pwysigrwydd rheolau, rheoliadau a chyfarwyddiadau llym * Gallu canolbwyntio dros gyfnodau hir o amser* Gallu cadwu pennau a bod yn gyfrifol dan bwysau* Rhannu ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid* Meddu ar sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol Mae hon yn rôl diogelwch hanfodol ac felly bydd angen i chi ymgymryd â phrawf meddygol llym a fydd yn golygu prawf ffitrwydd llawn a phrawf cyffuriau ac alcohol.Dymar gofynion hanfodol eraill ar gyfer y rôl:* Maen rhaid i chi fyw o fewn awr ir depo och dewis* Maen rhaid i chi fod yn 21 oed neu drosodd am resymau cyfreithiol (derbynnir ceisiadau gan ymgeiswyr syn 20 oed, ond ni fyddwch yn cael dechrau gweithio shifftiau nes byddwch yn 21 oed) Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd camau nesaf y broses yn cynnwys y canlynol: * Cyfweliad gweithredol* Asesiadau gyrwyr ar draws y diwydiant * Prawf meddygol llawn Mae ein proses recriwtio ar gyfer gyrwyr dan hyfforddiant yn cymryd amser, ond rydym yn addo y bydd yn talu ar ei ganfed ir rhai syn llwyddiannus. Sylwch: yn sgil y sefyllfa bresennol â Covid-19, efallai y bydd oedi pellach ir broses recriwtio. Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar a byddwn yn ymdrechu i adael i chi wybod beth syn digwydd drwy gydol y broses.Cynnig gwaith:Os byddwch yn llwyddiannus drwy gydol y broses recriwtio, byddwch yn cael eich cadw yn ein Cronfa Dalent nes bydd cwrs hyfforddiant ar gael. Ar ôl cadarnhau dyddiad dechrau, bydd yn rhaid i chi fynd i apwyntiad meddygol a chael archwiliadau o gefndir a geirdaon sylfaenol. Sylwch: mae cynigion o waith yn amodol ar wiriadau meddygol a chefndir boddhaol yn ogystal â chyfnod prawf 12 mis.Hyfforddiant:Mae rôl gyrrwr trên yn un fedrus iawn, a darperir rhaglen hyfforddiant helaeth i bob gyrrwr trên dan hyfforddiant. Mae ein rhaglen hyfforddiant yn para 34 wythnos, ac yn ystod y cyfnod hwn byddwch yn dysgu theori gyrru trên, yn gyrru ein peiriannau efelychu trên i ymgyfarwyddo â gyrru trên, ac ynan treulio tua 26 wythnos fel gyrrwr trên dan hyfforddiant gyda hyfforddwr profiadol. Ar ôl cwblhaur rhaglen, bydd un o reolwyr y tîm gyrwyr yn eich asesu ym mhob agwedd ar y rôl.Pob lwc gydach cais - edrychwn ymlaen at glywed gennych chi ach croesawu i deulu Trafnidiaeth Cymru. ** Os ydych chi wedi bod drwyr broses gyfweld neu asesu ar gyfer rôl Gyrrwr Trên Dan Hyfforddiant (mewn unrhyw leoliad) yn ystod y chwe mis diwethaf a heb fod yn llwyddiannus, yna peidiwch ag ailymgeisio oherwydd ni fyddwn yn ailystyried eich cais** **Dyddiad cau: 14th Hydref 2020, ond gallair hysbyseb hon gaun gynharach os ydyn nin derbyn digon o geisiadau**Acorn Recruitment acts as an employment agency for permanent recruitment. Required skills
Keyskills :
Communication Customer service skills