Naukrijobs UK
Register
London Jobs
Manchester Jobs
Liverpool Jobs
Nottingham Jobs
Birmingham Jobs
Cambridge Jobs
Glasgow Jobs
Bristol Jobs
Wales Jobs
Oil & Gas Jobs
Banking Jobs
Construction Jobs
Top Management Jobs
IT - Software Jobs
Medical Healthcare Jobs
Purchase / Logistics Jobs
Sales
Ajax Jobs
Designing Jobs
ASP .NET Jobs
Java Jobs
MySQL Jobs
Sap hr Jobs
Software Testing Jobs
Html Jobs
IT Jobs
Logistics Jobs
Customer Service Jobs
Airport Jobs
Banking Jobs
Driver Jobs
Part Time Jobs
Civil Engineering Jobs
Accountant Jobs
Safety Officer Jobs
Nursing Jobs
Civil Engineering Jobs
Hospitality Jobs
Part Time Jobs
Security Jobs
Finance Jobs
Marketing Jobs
Shipping Jobs
Real Estate Jobs
Telecom Jobs

Community adviser working with the Chinese community

Job LocationCardiff
EducationNot Mentioned
SalaryNot Mentioned
IndustryNot Mentioned
Functional AreaNot Mentioned
Job TypePermanent, full-time or part-time

Job Description

Y cyfrifiadArolwg gorfodol unwaith bob degawd o boblogaeth gyfan Cymru a Lloegr yw'r cyfrifiad. Mae'n darparu gwybodaeth ac ystadegau manwl sy'n llywio penderfyniadau yn y dyfodol a chyfeiriad y wlad.Bydd Cyfrifiad 2021 yn parhau hanes sy'n mynd yn ôl fwy na 200 o flynyddoedd _ mae cyfrifiad wedi bod bob deg mlynedd ers 1801, ac eithrio 1941. Mae'r cyfrifiad yn unigryw ac mae'n cyffwrdd â phob unigolyn a chartref yn y Deyrnas Unedig. Mae'r data sy'n cael eu casglu yn hanfodol er mwyn ein helpu ni i ddeall ein cymdeithas. Maent yn agor ffenestr ar anghenion grwpiau gwahanol yn ein poblogaeth, yn cefnogi gwaith monitro cydraddoldebau ac maent yn cael eu defnyddio gan sefydliadau ac unigolion i wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bob un ohonom ni. Mae llywodraeth, busnesau, elusennau ac awdurdodau lleol yn defnyddio'r data i ddeall galwadau sy'n newid ar gyfer cysylltiadau trafnidiaeth ac ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus megis ysgolion, meddygfeydd ac ysbytai.Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cynnal y cyfrifiad ar gyfer Cymru a Lloegr. Gallwch ddysgu mwy am Gyfrifiad 2021 ynDiben cynghorydd cymunedol y cyfrifiad -Byddwch yn gwneud y canlynol:

  • defnyddio eich profiad o ymgysylltu â chymunedau i weithio gyda'r grwpiau cymunedol Tsieineaidd er mwyn gwneud gwahaniaeth
  • gweithio gydag amrywiaeth eang o grwpiau a sefydliadau er mwyn sicrhau bod y gymuned gyfan, h.y. pobl o bob oedran, cefndir, cred grefyddol ac iaith, yn ymgysylltu â'i gilydd
  • meithrin ymddiriedaeth ac annog pobl i gymryd rhan yn y cyfrifiad drwy eich gweithgareddau allgymorth ac ymgysylltu, gan sicrhau bod y data y mae'n eu darparu yn cynrychioli pawb
  • bod yn gyfrifol am ymgysylltu â chymunedau mewn ardal benodol
  • deall eich ardal ac ymgysylltu â'r cymunedau sydd ynddi
  • meithrin cydberthnasau cryf sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth â'r cymunedau hyn, gan ddatblygu rhwydweithiau o gyfryngwyr ac arweinwyr allweddol er mwyn sicrhau, yn y pen draw, y bydd cynifer o bobl â phosibl yn llenwi holiadur y cyfrifiad
  • defnyddio eich sgiliau ymgysylltu, cyfathrebu ac iaith i godi ymwybyddiaeth o'r cyfrifiad, sicrhau cymorth a threfnu gweithgareddau i gefnogi pobl i lenwi holiadur y cyfrifiad
  • cael eich rheoli gan reolwr ymgysylltu'r cyfrifiad, sy'n gyfrifol am ymgysylltu â'r holl gymunedau yn yr ardal
  • angen gweithio'n agos gyda'ch rheolwr ymgysylltu ac unrhyw gynghorwyr cymunedol eraill yn eich tîm
  • Prif gyfrifoldebauBydd y rhain yn cynnwys:
  • ymgysylltu â'r cymunedau Tsieineaidd mewn modd cadarnhaol er mwyn cefnogi ac annog pawb i lenwi holiadur y cyfrifiad
  • cyfrannu at gynllun ymgysylltu lleol drwy ymchwilio i strategaethau ar gyfer ymgysylltu'n effeithiol â chymunedau yn eich ardal, eu datblygu a'u rhoi ar waith
  • trefnu ac arwain gweithgareddau allgymorth, megis gweithdai cymunedol a rhoi cyflwyniadau i grwpiau cymunedol lleol a phobl eraill, er mwyn annog pobl i gymryd rhan
  • meithrin cydberthnasau â sefydliadau, arweinwyr ffydd ac arweinwyr cymunedau a gweithio gyda nhw i hyrwyddo cymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021
  • nodi pryderon pobl a'r materion a allai eu hatal rhag cymryd rhan yn y cyfrifiad a gweithio i'w goresgyn, gan gynnig esboniadau, sicrwydd a chymorth
  • cynllunio, trefnu a chynnal gweithgareddau lle y byddwch yn helpu pobl i lenwi'r holiadur
  • codi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael a'r ffyrdd y gall pobl lenwi holiadur y cyfrifiad
  • gweithio gyda thîm cyfryngau'r cyfrifiad a rheolwyr ymgysylltu'r cyfrifiad i ganfod cyfryngau cymunedol lleol (megis gorsafoedd radio cymunedol a phapurau newydd cymunedol) a chysylltu â nhw a rhoi cyfweliadau, gan gynnwys cyfweliadau a gaiff eu darlledu, os oes angen
  • defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo'r cyfrifiad ac i helpu i ymgysylltu â chymunedau yn eich ardal
  • hyrwyddo swyddi'r cyfrifiad yn eich ardal leol, gan annog pobl o'r cymunedau rydych yn gweithio gyda nhw i wneud cais yn arbennig
  • dangos ymrwymiad cryf i gyflawni nodau'r cyfrifiad
  • gweithredu fel pwynt cyswllt am gyngor a gwybodaeth ar gyfer y gymuned
  • dogfennu ac adrodd am y gwaith rydych yn ei wneud yn rheolaidd
  • cydymffurfio ag unrhyw bolisïau SYG ar bobl, diogelwch, ac iechyd a diogelwch
  • Sgiliau a phrofiadBydd angen i chi:
  • feddu ar brofiad o weithio ym maes ymgysylltu neu allgymorth cymunedol. Gall hyn fod mewn rôl gyflogedig neu mewn rôl wirfoddol
  • meddu ar y gallu i ddatblygu a rheoli cydberthnasau
  • meddu ar sgiliau trefnu ardderchog a'r gallu i flaenoriaethu er mwyn bodloni terfynau amser
  • meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog yn ysgrifenedig ac ar lafar, gan gynnwys rhoi cyflwyniadau a llunio adroddiadau
  • gallu siarad Saesneg
  • gallu siarad Mandarin neu Gantoneg i safon ddigonol fel eich bod yn gallu trafod y cyfrifiad mewn termau pob dydd yn yr iaith honno
  • bod yn ymwybodol o amrywiaeth wrth ddarparu gwasanaeth
  • meddu ar sgiliau TG, gyda phrofiad o ddefnyddio amrywiaeth o feddalwedd
  • meddu ar sgiliau gwneud penderfyniadau a datrys problemau da
  • bod yn wydn – cewch eich cefnogi gan gydweithwyr a'ch rheolwr ond byddwch yn gweithio ar eich pen eich hun am lawer o'r amser
  • Byddai'r canlynol hefyd yn ddymunol:
  • meddu ar wybodaeth am yr ardal y byddwch yn gweithio ynddi
  • meddu ar brofiad o ymdrin â'r cyfryngau a/neu gyfweliadau
  • meddu ar drwydded yrru lawn a chyfredol y Deyrnas Unedig a/neu'r defnydd o gerbyd modur (sydd wedi'i yswirio at ddefnydd busnes) – cewch lwfans milltiroedd (mewn rhai ardaloedd gellid ystyried bod hyn yn hanfodol)
  • Prif ofynionBydd angen i chi:
  • allu defnyddio ffôn symudol, llechen a gliniadur yn gymwys a bod â mynediad i'r rhyngrwyd
  • treulio'r rhan fwyaf o'ch oriau gwaith yn eich ardal waith ddaearyddol
  • bod yn barod i ddefnyddio eich cartref fel swyddfa a gallu derbyn, gwirio a storio eitemau a chyflenwadau bach yn ddiogel (bydd angen i chi hysbysu eich cwmni yswiriant y byddwch yn gweithio gartref)
  • cael hyfforddiant a mynychu cyfarfodydd yn ôl y gofyn
  • bod ar gael yn ystod y cyfnod 26 Hydref 2020 i 07 Mai 2021 (cyfyngir ar wyliau yn ystod y cyfnod hwn)bod yn fodlon gweithio oriau anghymde
  • APPLY NOW

    Community adviser working with the Chinese community Related Jobs

    © 2019 Naukrijobs All Rights Reserved