London Jobs |
Manchester Jobs |
Liverpool Jobs |
Nottingham Jobs |
Birmingham Jobs |
Cambridge Jobs |
Glasgow Jobs |
Bristol Jobs |
Wales Jobs |
London Jobs |
Manchester Jobs |
Liverpool Jobs |
Nottingham Jobs |
Birmingham Jobs |
Cambridge Jobs |
Glasgow Jobs |
Bristol Jobs |
Wales Jobs |
Oil & Gas Jobs |
Banking Jobs |
Construction Jobs |
Top Management Jobs |
IT - Software Jobs |
Medical Healthcare Jobs |
Purchase / Logistics Jobs |
Sales |
Ajax Jobs |
Designing Jobs |
ASP .NET Jobs |
Java Jobs |
MySQL Jobs |
Sap hr Jobs |
Software Testing Jobs |
Html Jobs |
Job Location | Caerphilly |
Education | Not Mentioned |
Salary | Competitive salary |
Industry | Not Mentioned |
Functional Area | Not Mentioned |
Job Type | Temporary, full-time |
Cyfwelwyr symudol arolwg cwmpas y cyfrifiad37 awr yr wythnosContract: 27 Ebrill 2021 – 23 Mehefin 2021 + gwyliauNifer o leoliadau ledled Cymru a LloegrBand 1 – £14.61Band 2 – £12.64Band 3 – £11.22Dim oriau gwaith dyddiol penodol ond bydd rhaid i chi gytuno i weithio eich dyletswyddau (gan gynnwys unrhyw amser teithio) o fewn yr oriau isod:Dydd Llun: Hyd at awr i gael cadarnhad och eich lleoliad yr wythnos honnoO ddydd Mercher i ddydd Sadwrn:9am ac 8pm Dydd Sul a gwyliau banc: 10am ac 4pm Cyfwelwyr hyderus syn gwneud y cyfrifiadArolwg o boblogaeth gyfan Cymru a Lloegr ywr cyfrifiad, syn digwydd bob 10 mlynedd. Caiff ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ac maen rhoi darlun i ni or holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr.Caiff y wybodaeth rydym yn ei chasglu ei defnyddio i wneud penderfyniadau syn effeithio ar bawb – pethau fel faint o ysgolion, meddygfeydd ac ysbytai sydd eu hangen arnom.Rydym ni bellach yn recriwtio ar gyfer cyfwelwyr dros dro a all deithio ledled Cymru a Lloegr lle mae angen adnoddau ychwanegol. Byddwch yn ennill profiad gwerthfawr ac yn helpu i wellar cymunedau rydych yn ymweld â nhw.Y rôlYdych chin mwynhau siarad â phobl o bob cefndir Ydych chin barod i deithio ar fyr rybudd Mae ein tîm symudol yn teithio ledled Cymru a Lloegr, lle bynnag y mae angen eu gwasanaethau, a chwblhau cyfweliadau ar garreg y drws yn yr ardal benodol honno.Yn y rôl dros dro, bwysig hon, byddwn yn rhoi lleoliad cychwynnol i chi weithio ynddo. Wedyn, byddwch yn teithio i leoliadau amrywiol ledled Cymru a Lloegr, lle bynnag y mae angen adnoddau ychwanegol.Byddwch yn rhestru ac yn cofnodi pob eiddo mewn ardal benodol ar ffôn clyfar, byddwch yn curo ar ddrysau ac yn annog preswylwyr i gwblhau cyfweliad ar garreg y drws gyda chi.Bydd rhai pobl yn poeni am lenwir holiadur. Dyna lle byddwch chin defnyddio eich sgiliau cyfathrebu neu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych. Byddwch yn rhoi tawelwch meddwl ir bobl hyn, ac yn ymweld â chyfeiriadau dro ar ôl tro yn ôl yr angen nes i chi gael ymateb.Byddwch yn gweithion annibynnol, ond cewch gymorth gan arweinydd tîm a fydd yn teithio ir un lleoliadau â chi. Bydd yn eich helpu i ymgyfarwyddo âch rôl, gan roi cymorth i chi yn ôl yr angen.Amdanoch chiRydych yn meddu ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid, ac rydych yn hyderus yn siarad ag aelodau or cyhoedd ar gymuned leol. Bydd achlysuron pan fydd y gwaith hwn yn heriol o bosibl, felly bydd angen i chi allu cadwch pen a bod yn broffesiynol pe bai hynnyn digwydd. Mae meddu ar sgiliau ysgrifenedig a llafar da yn Saesneg yn bwysig (byddai sgiliau Cymraeg yn fanteisiol os byddwch yn gweithio yng Nghymru). Dylech fod yn drefnus, yn llawn menter, a theimlon hyderus yn defnyddio ffôn clyfar a chymwyseddau amrywiol.Bydd angen i chi allu teithio ledled Cymru a Lloegr gydag o leiaf 24 awr o rybudd. Bydd rhaid i chi hefyd fod yn barod i aros dros nos ac am gyfnodau hwy lle y bo angen. Bydd hefyd angen i chi allu teithio ich ardaloedd penodol ac ou hamgylch. Bydd y pellteroedd hyn yn amrywio. Byddwn yn cynnig cymorth o ran trefnu llety, a byddwn yn talu treuliau.Bydd angen i chi feddu ar drwydded yrru lawn gyfredol y DU ar gyfer y rôl hon, a bod â cherbyd modur iw ddefnyddio, wedii yswirio at ddefnydd busnes. Byddwn yn talu lwfans milltiroedd a threuliau teithio yn eich ardal waith.Pobl syn gwneud y cyfrifiad. Os ydych chin cyfathrebun hyderus ac os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud Cyfrifiad 2021 yn llwyddiant i bawb, gwnewch gais am rôl cyfwelydd symudol cwmpas y cyfrifiad.Gallwn ni ond eich cyflogi os ydych chin gymwys i weithio ir Gwasanaeth Sifil. Dysgwch fwy am reolau cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil.COVID-19Byddwn yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â chanllawiau priodol y llywodraeth er mwyn eich cadw chin ddiogel pan fyddwch yn gweithio i SYG. Bydd cyfarpar diogelu personol priodol, gan gynnwys diheintydd dwylo a masgiau wyneb, yn cael eu darparu ir holl staff. Er mwyn eich cadwn ddiogel, bydd angen i chi ddefnyddio a gwisgor cyfarpar diogelu personol hwnnw, yn ôl y cyfarwyddyd, pan fyddwch chin gweithio. Bydd pawb yn cadw pellter cymdeithasoldrwy gydol gweithrediad y cyfrifiad.